top of page
Rebecca Jo Hanbury (She/Her/Hi)
Mae Rebecca yn actores, awdures, ac yn gynhyrchydd o Gymru sy’n gweithio ar draws sgrîn, llwyfan ac awdio.
​
A hithau’n raddedig o Webber Douglas Academy of Dramatic Art, mae ei chredydau sgrîn yn cynnwys EastEnders, Holby City, a’r ddwy gyfres o’r comedi Awstralaidd It’s a Date ar gyfer ABC.
​
Mae hi wedi ysgrifennu a chynhyrchu y gyfres podlediad wreiddiol Babble & Froth, ac mae’n parhau i ddatblygu ei phrosiectau ei hun—yn bennaf ym maes comedi—gyda ffocws ar gymeriadau cryfion a deialog graff. Mae ganddi brofiad llwyfan helaeth sy’n cynnwys amrywiaeth o rolau dramatig a cherddorol yn y DU ac yn Awstralia.
bottom of page